PET(4)-05-12 p12a

 

P-04-350 Cadw’r gwasanaethau y mae Sporttrain yn eu darparu yn y Rhondda a Chaerdydd

 

Geiriad y ddeiseb:

 

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gadw’r gwasanaethau cymunedol hanfodol y mae Sporttrain yn eu darparu yn y Rhondda ac yn Grangetown, sef:

 

-     hyfforddiant gwaith i bobl ifanc;

-     hyfforddiant ymgysylltu i bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant;

-     dysgu cymunedol;

-     gwasanaethau lles, cymorth a chwnsela i bobl ifanc;

-     hyfforddiant chwaraeon a gweithgareddau cymunedol i bobl ifanc.

 

Prif ddeisebydd: Gareth Holohan

 

Y dyddiad yr ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf: 29 Tachwedd 2011

Nifer y deisebwyr: Tua 2,000

 

 

Gwybodaeth ategol:

Bwriedir cau canolfannau Sporttrain yn y Rhondda ac yn Grangetown ym mis Ionawr 2012, gan ddileu gwasanaeth hanfodol i bobl ifanc a gadael bwlch yn y cymunedau hyn.

Gallai hynny gael cryn effaith ar lefelau ymgysylltu ymysg pobl ifanc, ac ar gyflogaeth, troseddu ac iechyd yn yr ardaloedd hyn.

Mae Sporttrain yn llwyfan pwysig i bobl ifanc nad oes ganddynt drywydd arall yn eu bywydau, gan gynnwys y rheini na allant ymgysylltu â’r ysgol, y coleg, hyfforddiant neu gyflogaeth, gan roi iddynt y gefnogaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i drawsnewid eu bywydau.

Mae nifer o gyflogwyr lleol yn recriwtio’n uniongyrchol o Sporttrain, oherwydd mae ganddynt brofiad o weld bod gan ein pobl ifanc y sgiliau, yr agwedd a’r ethos sydd eu hangen i fod yn weithwyr effeithiol. Mae cyflogwyr wedi mynegi pryder y bydd dileu gwasanaeth Sporttrain yn arwain at brinder o bobl ifanc sydd â’r sgiliau angenrheidiol yn yr ardal.

Mae cyrff sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phobl ifanc, gan gynnwys Gyrfa Cymru, y gwasanaethau cymdeithasol a thimau troseddau ieuenctid wedi dweud mai ‘Sporttrain yw’r ateb mwyaf effeithiol sydd ar gael ar gyfer nifer o’r bobl ifanc rydym yn delio â nhw’.

Bydd dileu gwasanaeth Sporttrain yn cael effaith uniongyrchol ar y bobl ifanc sydd â’r anghenion mwyaf, gan gynnwys y rheini:

• nad ydynt wedi bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ers cryn amser;

• sydd ag anhawster dysgu;

• sydd â’r lefelau sgiliau isaf;

• sydd â’r problemau personol neu emosiynol mwyaf;

• a gafwyd yn euog o gyflawni trosedd.

Mae arweinwyr cymunedau, Cymunedau’n Gyntaf, a heddweision lleol i gyd wedi mynegi eu pryder y byddai dileu gwasanaethau Sporttrain yn cael effaith andwyol ar lefelau ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu, sydd wedi gwella o gael Sporttrain wrth galon y cymunedau hyn.

Rydym yn annog Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wrando ar leisiau’r bobl ifanc hyn, ac i gymryd sylw o rybuddion yr asiantaethau annibynnol sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phobl ifanc yn y cymunedau hyn.